Techniquest and Techniquest Glyndŵr are to receive Welsh Government funding of £1, 300,600 and £349,400 respectively to further extend their science and mathematics programmes for schools.
Both Techniquest, based in Cardiff, and Techniquest Glyndŵr, based in Wrexham, provide a range of educational services through interactive exhibits and learning materials available on sites across Wales and through outreach support programmes for primary and secondary schools.
The funding announced today will allow both centres to deliver programmes covering the full spectrum of the curriculum – from Foundation Phase to 14-19 learning.
For the first time in 2012-13, Techniquest will operate a newly updated range of schools science theatre programmes for primary schools, tailored to the curriculum for both Foundation Phase and Key Stage 2 classes. These are specifically designed to stimulate in-depth exploration of the exhibits in the main exhibition. Teachers are given digital cameras to capture moments from the day which can then be used back in school to complement learning in the classroom.
Meanwhile, Techniquest Glyndŵr’s work programme includes a new project for Key Stage 3 pupils aimed at boosting Wales’ performance in PISA tests. This will involve two full days of STEM (science, technology, engineering and mathematics) activities for more able and talented pupils in each of the secondary schools in Wrexham and Flintshire (reaching a total of 21 schools and impacting on 1,890 pupils).
The other programme, which will focus on employer related activities for 14-16 year olds, will involve 30 schools and deliver up to 1,500 additional pupil engagements. It will comprise an industry-linked workshop, followed by a visit to an industry workplace, where the students will witness professionals in action, with the aim of raising awareness of STEM careers and promoting take-up of STEM subjects at post-16 level.
Minister for Education and Skills, Leighton Andrews, said: “One of the key aims of our Science for Wales strategy is to foster a passion for the STEM subjects from an early age.
“The funding I’m announcing today will allow both Techniquest and Techniquest Glyndŵr to go that one step further in engaging pupils with STEM subjects.
“By stimulating pupils’ interest early, we can ensure that more of our young people go on to excel in this area and consider science, maths, technology or engineering as the basis for future careers.”
Hwb i gyllid Techniquest yn dod â gwyddoniaeth yn fyw
Bydd Techniquest a Techniquest Glyndŵr yn cael £1,300,600 a £349,400 gan Lywodraeth Cymru i ehangu ymhellach eu rhaglenni gwyddoniaeth a mathemateg ar gyfer ysgolion ymhellach.
Mae Techniquest yng Nghaerdydd, a Techniquest Glyndŵr yn Wrecsam, yn darparu ystod o wasanaethau addysgol drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a deunyddiau dysgu sydd ar gael ar safleoedd ledled Cymru a thrwy raglenni allgymorth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi’r ddwy ganolfan i gyflwyno rhaglenni sy’n cwmpasu sbectrwm llawn y cwricwlwm – o’r Cyfnod Sylfaen i ddysgu 14-19.
Am y tro cyntaf yn 2012-13, bydd Techniquest yn gweithredu ystod newydd ei diweddaru o raglenni theatr gwyddoniaeth ar gyfer ysgolion cynradd, sydd wedi eu teilwra i’r cwricwlwm ar gyfer dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r rhain wedi eu cynllunio’n benodol i annog plant i ymchwilio ymhellach i’r pethau a gaiff eu dangos yn y brif arddangosfa. Bydd athrawon yn cael camerâu digidol i gofnodi’r diwrnod y gellir wedyn eu defnyddio yn yr ysgol i gefnogi’r dysgu yn y dosbarth.
Yn y cyfamser, mae rhaglen waith Techniquest Glyndŵr yn cynnwys prosiect newydd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 gyda’r nod o roi hwb i berfformiad Cymru yn y profion PISA. Bydd hyn yn cynnwys dau ddiwrnod llawn o weithgareddau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog ym mhob un o’r ysgolion uwchradd yn Wrecsam a Sir y Fflint (gan gyrraedd cyfanswm o 21 o ysgolion a bydd 1,890 o ddisgyblion yn elwa arnynt).
Bydd y rhaglen arall, a fydd yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â chyflogwyr ar gyfer pobl ifanc 14-16 mlwydd oed, yn cynnwys 30 o ysgolion ac yn cynnig cyfle i hyd at 1,500 o ddisgyblion. Bydd yn cynnwys gweithdy sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, gydag ymweliad ag un o weithleoedd y diwydiant i ddilyn, lle bydd y myfyrwyr yn gweld pobl broffesiynol wrth eu gwaith, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM a hybu’r pynciau STEM sy’n cael eu hastudio ar lefel ôl-16.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: “Un o brif nodau ein strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru yw meithrin brwdfrydedd dros bynciau STEM o oedran ifanc.
“Bydd y cyllid rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn galluogi Techniquest a Techniquest Glyndŵr i fynd gam ymhellach wrth ennyn diddordeb disgyblion mewn pynciau STEM.
“Wrth ysgogi diddordeb disgyblion yn gynnar, gallwn sicrhau bod mwy o’n pobl ifanc yn mynd ati i ragori yn y maes hwn gan ystyried gwyddoniaeth, mathemateg, technoleg neu beirianneg fel sylfaen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Matt Flye
Senior Communications Officer / Uwch Swyddog Cyfathrebu
Education and Skills / Addysg a Sgiliau
Welsh Government/ Llywodraeth Cymru
Phone/ Ffon : 02920 898556
Fax/ Facs: 02920 898560/1
Email/ Ebost : matthew.flye@wales.gsi.gov.uk
For more Welsh Assembly Government news visit: www.wales.gov.uk/news
Twitter: www.twitter.com/welshgovernment
YouTube: www.youtube.com/welshgovernment
Images: www.flickr.com/welshgovernment
Am ragor o newyddion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ewch i: www.cymru.gov.uk/newyddion
Twitter: www.twitter.com/llywodraethcym
YouTube: www.youtube.com/welshgovernment
Lluniau: www.flickr.com/welshgovernment